StatsCymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

StatsCymru

Ewch i mewn i StatsCymru

Gwasanaeth di-dâl yw StatsCymru sy'n caniatáu i chi weld, defnyddio, creu a lawrlwytho tablau o'r data swyddogol mwyaf manwl sydd ar gael am Gymru.

Am ragor o wybodaeth ar sut i ddefnyddio tablau StatsCymru, trowch at yr adrannau ar “Golwg Tabl” a’r “Rhestr Eitemau” yn Cymorth. Mae cymorth ar ddefnyddio’r cyfleuster newydd ar gyfer mapio data ar gael hefyd o dan “Golwg Map”.

Gallwch ddod o hyd i dablau drwy ddefnyddio'r dudalen Adroddiadau i bori drwy'r ffolderi pynciau neu drwy ddefnyddio'r cyfleuster chwilio.

Gall defnyddwyr gofrestru i gael hysbysiadau drwy'r e-bost er mwyn cael gwybod a yw'r setiau data wedi'u newid o gwbl.

Gall defnyddwyr uwch hefyd gofrestru er mwyn creu eu proffilau eu hunain, cynllunio eu hadroddiadau eu hunain, a'u cadw.

Mae data yn cael eu hychwanegu at StatsCymru drwy'r adeg a bydd themâu ystadegol newydd hefyd yn cael eu hychwanegu ato yn ystod y misoedd nesaf.